Am y Rhanbarth
Mae ardal Gorllewin De Cymru yn rhanbarth etholaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd yn cynnwys saith etholaeth. Mae’r rhanbarth yn ethol 11 aelod, ac mae saith ohonynt yn cael eu hethol yn uniongyrchol, a phedair fel aelodau ychwanegol. Defnyddiwyd y rhanbarth fel ardal etholaethol am y tro cyntaf erioed yn 1999, a hynny pan greuwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae pob ardal etholaethol yn ethol un Aelod Cynulliad drwy’r system y cyntaf i’r felin, ac mae’r rhanbarth yn ei gyfanrwydd yn ethol pedair aelod ychwanegol fel Aelodau Cynulliad i greu canran o gynrychiolaeth cyfrannol. Mae seddi yr aelodau ynchwanegol yn cael ei rhannu o rhestrau caeedig y system d’Hondt, gan gymryd i ystyriaeth canlyniadau yr etholaethau pan yn penodi’r seddi ychwanegol.
Mae’r rhanbarth yn cynnwys hen sir De Morgannwg, rhan o’r Sir sydd dal i fodoli – Morgannwg Ganol, a rhan o’r sir De Morgannwg. Mae gweddill sir Morgannwg Ganol yn cael ei rhannu rhwng y rhanbarthau etholedig newydd, sef Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru. Mae gweddill De Morgannwg o fewn yr ardal rhanbarthol Canol De Cymru.




