Lles Anifeiliaid
Fel aelod o’r grwp trawsbleidiol ar lles anifeiliad yn y Cynulliad, ac fel llyseuwr, rwyf yn cefnogwr brwd o lles anifeiliad, a’i hawliau. Rwyf wedi ymgyrchu yn erbyn coleri sy’n rhoi sioc i gwn gyda fy nghyd weithwyr ym Mhlaid Cymru ar lefel y Cynulliad, ac mae Elin Jones AC, y Gweinidog Amaeth wedi banio’r coleri yng Nghymru yn ddiweddar. Rwyf wedi ymweld a Llys Nini ym Mhontarddulais sydd yn rhoi lloches i anifeiliaid, ac rwyf yn cynnal cyfarfodydd cyson gyda’r RSPCA yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi ymweld a’r Canolfan Ymddiriedolaeth Cwn ym Mhenybont er mwyn cefnogi ei gwaith lleol.




