Symud Cymru ymlaen yn Aberafan, Penybont, Gwyr, Castell Nedd, Port Talbot ac Abertawe
Moving Wales forward in Aberavon, Bridgend, Gower, Neath, Ogmore, Port Talbot and Swansea

Cyfiawnder Lloches

Mae ymgyrchoedd a materion sydd yn ymwneud a phobl sydd yn ceisio lloches yn bwysig iawn i mi, ac ers I mi gael fy ethol, rwyf wedi bod yn rhan o nifer o ymgyrchoedd er cefnogi gallu y rheiny sy’n ceisio lloches i aros yma yng Nghymru. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n ennyn pobl o wledydd eraill I deimlo’n ddiogel, ac yn rhan o’n cymunedau yma yng Nghymru. Er gwaetha’r ffaith nad oes gennym y pwerau dros systemau lloches yn y Cynulliad ar hyn o bryd, ac fod hwn yn rhan o benderfyniadau’r system yn San Steffan, mae’n bwysig I mi fel Aelod Cynulliad I gefnogi pobl yn ein cymuned sydd yn geiswyr lloches.

Yn ddiweddar, rwyf wedi sefydlu grwp trawsbleidiol newydd ar hawliau dynol gyda’r Aelodau Cynulliad Darren Millar AC, Lesley Griffiths AC ac Eleanor Burnham AC lle bydden yn trafod materion i ymwneud a cheiswyr lloches ymysg pynciau eraill. Os hoffech derbyn mwy o wybodaeth am y grwp, plis cysylltwch a mi. Mae’r cyfarfod nesaf ar y 13 o Hydref, 6 yr hwyr yn y Cynulliad.

asylumseekers_q_brian_gibbons1