Plaid AM Bethan Jenkins launches new website
17 Medi 2008
Heddiw, mae Aelod y Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Bethan Jenkins wedi lansio ei gwefan newydd i hysbysu ei hetholwyr am y gwaith mae hi’n ei wneud yn yr ardal.
Yn siarad o’i swyddfa yng Nghastell Nedd heddiw, dywedodd Ms Jenkins:
“Lansiais fy ngwefan blogio newydd yn ddiweddar ac mae wedi’i llunio i fod yn debyg i’r wefan rwy’n lansio heddiw.
Mae’n hollbwysig i ACau gadw mewn cysylltiad ag etholwyr mewn ffyrdd newydd ac arloesol, ac mae’r wefan yn un ffordd o wneud hyn. Mae gwybodaeth am ymgyrchoedd a materion lleol yng Ngorllewin De Cymru yn ogystal ag oriel lluniau ar y wefan. Hefyd, mae ‘na erthyglau rwyf wedi ysgrifennu i’r wasg leol a sut i gysylltu â fy staff yn y swyddfa yng Nghastell Nedd. ”
Ychwanegodd Bethan:
“Rwy’n bwriadau postio blogiau fideo am fy ngwaith yn rheolaidd ar y wefan yn ogystal â’r newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau lleol y gall fy etholwyr fynychu yn yr ardal. Hefyd, mae ardal lle y gall pobl gysylltu â fi trwy Facebook neu’r wefan gymdeithasol Twitter.
“Gobeithio y bydd hyn yn annog pobl i gymryd rhan yn y broses wleidyddol ac y bydd ACau eraill yn fy nilyn i trwy ddefnyddio’r technolegau newydd. Rwy’n dymuno hefyd rhoi polau ar y wefan i gasglu barnau pobl ar faterion o bwys.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan www.bethanjenkins.org.uk. Crëwyd y wefan gan Jeremy Clulow o www.webswonder.co.uk
Gwelir fy ngwefan blogio ar www.bethanjenkinsblog.org.uk



