Dwyieithrwydd
Mae hanes Plaid Cymru wedi ei sefydlu’n gryf yn rhan o’r ymgyrch i ddatblygu’r iaith gymraeg, ac er sicrhau bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac hynny er mwyn creu Cymru gwirioneddol dwyieithog. Mae Llywodraeth Cymru’n Un ar hyn o bryd yn ceisio am fwy o bwerau o San Steffan ynghlwm a’r Iaith Gymraeg, ac rydym o blaid sefydlu Comisiynydd Iaith o fewn y Llywodraeth. Mae Plaid Cymru hefyd yn bwriadu sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg er mwyn sicrhau bod myfyrwyr sydd yn dyheu i astudio drwy gyfrwng y gymraeg yn ein Prifysgolion yn medru gwneud hynny fel hawl.
Dogfennau-



