Grwpiau Cymunedol
Mae’n bwysig iawn fod pobl yn teimlo perchnogaeth dros y cymunedau maent yn rhan ohono, ac felly un o elfennau gorau fy swydd fel AC yw ymweld a grwpiau cymunedol ac elusennau sydd yn gwneud gwaith mor gadarnhaol yn eu ardaloedd. Rwyf wedi penodi Swyddog Datblygiad Cymunedol fel rhan o’m tim staff, Gareth Thomas, a’i rol ef yw i wneud cysylltiadau gyda mudiadau a grwpiau ar draws y rhanbarth er mwyn i mi eu helpu gyda ceisiadau am help ariannol, ac yn y blaen.
Fe wnaeth Plaid Cymru ymateb i’r ymgynghoriad ar Cymunedau’n Gyntaf, ac fedrwch edrych ar y gwaith yma (PDF).
Os ydych yn rhan o grwp neu fudiad yng Ngorllewin De Cymru, ac os hoffech i mi ymweld neu cysgodi gweithiwr, yna plis cysylltwch.





