Symud Cymru ymlaen yn Aberafan, Penybont, Gwyr, Castell Nedd, Port Talbot ac Abertawe
Moving Wales forward in Aberavon, Bridgend, Gower, Neath, Ogmore, Port Talbot and Swansea

Dadl ar Gynllun Gweithredu ar gyfer Gweithgarwch Corfforol

Ar Ddydd Mawrth yr 2ail o Chwefror, fe wnaeth Bethan siarad ar gynllun gweithgarwch corfforol Llywodraeth Cymru. Dyma a ddywedwyd:

Hoffwn ddechrau trwy ddweud diolch i’r Gweinidog a’i dîm am adroddiad sydd, yn fy marn i, yr adroddiad mwyaf cynhwysfawr hyd yn hyn ar helpu pobl yng Nghymru cael y gorau o ymarfer corff.

Mae hyn yn bwysig iawn gan fod y ffigyrau yn dal yn achosion pryder:

  • Mae llai na thraean (30%) o oedolion Cymreig yn gwneud digon o ymarfer corff i fod o les i’w hiechyd;
  • Mae llai na hanner (44%) o blant rhwng 7 ac 11, a thipyn dros draean (35%) o blant rhwng 11 ac 16, yn cael 60 munud o ymarfer corff cymedrol pum niwrnod yr wythnos;
  • Mae un allan o bob deg plentyn rhwng 7 ac 11, a 14% o’r rheini rhwng 11 a 16heb fod yn 60 munud o ymarfer corff ar unrhyw ddydd yn yr wythnos;
  • Mae gan Gymru un o’r lefelau uchaf o ordewdra ymhlith pobl yn eu harddegau yn y byd gorllewin;
  • Mae bron dau draean (62%) o ddynion a dros hanner (53%) o fenywod yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew;
  • Mae cost o anweithgarwch corfforol yn costio tua £650 miliwn i Gymru bob blwyddyn.

Nawr rydym wedi newid y targedi o osodwyd i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Yn lle ceisio cynyddu pwyntiau canran y rheini sy’n gwneud ymarfer corff, a oedd yn fy nharo i fel ffordd tipyn yn haniaethol o fynd at y mater, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd am rywbeth fydd pawb yn ei ddeall – gwneud ‘un diwrnod yn rhagor’.

Mae’n nod sy’n hawdd i’w ddeall, a rhywbeth y gall pawb ei wneud, yn ôl ei lefel o weithgarwch – heb ots os ydych chi’n weithgar yn barod neu’n dechrau. Mae hyn yn ffitio’n well gyda nod canolog Creu Cymru Egnïol– “gwneud gweithgarwch yn rhan naturiol o fywydau pobl”.

Hoffwn ganolbwyntio ar gwpl o feysydd yn yr adroddiad a chynnig rhai meddyliau. Does gan yr un cyntaf ddim yn wir i wneud gydag ymarfer corff, gan ei fod yn mynd i’r afael ag agwedd marchnata cymdeithasol y cynllun. Wrth gwrs, rydym am berswadio pobl ifainc i adael eu sgriniau a mynd mas, ond sut ydym yn mynd i’w hannog i wneud hyn. Pobl ifainc rhwng 13 a 24 yw’r grŵp y mae’n anosaf i gyrraedd gyda marchnata – yn arbennig y dyddiau ‘ma, pan mae argaeledd y rhyngrwyd yn caniatáu iddynt greu cymunedau’r cyfoed a rhannu heb lawer o ystyriaeth o argymhellion, awgrymiadau neu orfodaeth o lefydd neu bobl eraill.

Ar ôl darllen Creu Cymru Egnïol, yr adran ar farchnata cymdeithasol sy’n fy mhryderu’n fwyaf. Mewn llefydd eraill yn yr adroddiad mae cynigion cadarn am weithredu nodau’r adroddiad, mae’n edrych fel nad yw’r ymgyrch marchnata cymdeithasol ddim wedi cael ei ddatblygu’n bell o honni bod rhaid inni wneud rhywbeth.

Mae cyfeiriad at ymuno ag ymgyrch fel ymgyrch Newid am Oes yr Adran Iechyd. Mae ei wefan yn honni bod dros 400,000 o deuluoedd wedi ymuno â’i waith; ond mae gan y grŵp ar Facebook dim ond 300 o aelodau. Ro’n i’n methu dod o hyd i gyfrif Twitter ar ei gyfer. Mae’r ddau yn cynrychioli’r enwau pwysicaf yn y cyfryngau cymdeithasol.

Mae hyn yn codi rhai cwestiynau:

  • Ydym wedi mesuro pa mor llwyddiannus y mae Newid am Oes wedi bod? Yn arbennig wrth gyrraedd y marchnadoedd a dargedi a thrwy gyfryngau cymdeithasol?
  • A ydym yn gwybod pa ffyrdd y mae’n defnyddio i gyrraedd ei gynulleidfaoedd targed a pha mor effeithiol y mae mewn cyrraedd ei amcanion?
  • Ydym wedi ystyried y bydd rhaid o bosib i addasu’r hyn sy’n gweithio yn Lloegr er mwyn iddo weithio yng Nghymru?
  • Pa mor ddatblygedig yw ymgyrch y cyfryngau cymdeithasol integredig yn llawn a fydd yn cyrraedd y bobl y mae angen eu cyrraedd os ydym yn mynd i fynd i’r afael â gordewdra ac anweithgarwch ymhlith pobl ifainc?

Mae llawer o’r marchnata o’r fath yn methu oherwydd nad ydy’n deall y bobl y mae’n ceisio eu cyrraedd. Byddwn yn awgrymu na allwn ni fethu yma, a dyma pam rwy’n credu bod angen gofyn cwestiynau cadarn ynglŷn â’i hyfywdra cyn ei gyflwyno.

Mae rhai meysydd yn yr adroddiad lle mae potensial am groesi drosodd – mae teuluoedd yn gwneud ymarfer corff a’i gilydd yn helpu tuag at dargedi ar gyfer pobl ifainc a hŷn, er enghraifft. Yn ddiweddar, treuliais beth amser ym Margam Discovery Centre, yn fy rhanbarth. Er bod ganddo adeilad newydd carbon isel gwych, un o’i gryfderau mwyaf yw’r gwaith y mae’n wneud mewn dosbarthiadau’r tu allan.

Mae’n debyg nad oes llawer o ffyrdd gwell o helpu pobl ifainc a hŷn fod yn weithgar na thrwy ddysgu mewn amgylchedd awyr iach.

Wrth bori’r adroddiad, mae Margam Discovery Centre yn cwrdd â llawer o nodau. Yn ogystal ag annog plant a phobl ifainc i fod yn weithgar, mae’n rhoi mynediad i le gwyrdd a’r cefn-gwlad, yn darparu amgylchedd gweithgar, yn cysylltu â nodau anghydraddoldebau, ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol. Mae’n cefnogi agweddau’r ysgol gyfan, gan gynnwys darpariaethau cwricwlaidd ac allgwricwlaidd, ac yn cefnogi oedolion gweithgar.

Rwy’n sicr y bydd Llywodraeth Cymru, wrth weithredu’r adroddiad awdurdodol a mawr ei angen, yn gwneud defnydd o gyfleusterau o’r fath wrth ddarparu gwasanaethau a fydd yn cefnogi nodau Creu Cymru Egnïol.