Dadl ar Naws am Le
4 Chwefror 2010
Ar Ddydd Mawrth yr 2ail o Chwefror, fe wnaeth Bethan siarad ar strategaeth twrisitaeth newydd Llywodraeth Cymru, Teimlad o Le. Dyma a ddywedwyd:
Roedd amser pryd fyddwch yn cael dau ymateb petaech yn dweud eich bod o Gymru:
“I went to Wales once and it rained all the time I was there;”
“I went into a shop in Wales once and the people in there all starting talking Welsh as soon as they saw me.”
O bosib fyddwch chi wedi meddwl bod amseroedd wedi newid, ac maent. Ond mae – beth ddylem ni ei alw? – rhagfarnau twristiaeth yn dal i’w gweld. Mae arolwg a wnaethpwyd dros Croeso Cymru fis Tachwedd diwethaf yn dangos bod pobl yn Lloegr ac Iwerddon â barnau hollol wahanol am y wlad ‘ma. Mae’r Saeson yn ei gweld fel anghroesawgar, tra bod y Gwyddelod yn dweud y gwrthwyneb.
Ond o bosib yr agwedd fwyaf pryderus yn yr adroddiad oedd y ffaith bod pobl o’r tu allan i Gymru yn aml yn ei gweld fel ‘gwlad wag’, gydag un atebydd yn dweud: “I’m really struggling to think of things that are there”.
Dyma pam rwy’n ystyried y pecynnau cymorth Naws am Le fel ffordd wir arloesol o fynd â thwristiaeth yng Nghymru i’r lefel nesaf. Mae’r rhoi’r grym i weithredwyr twristiaeth a’u caniatáu i helpu llunio sut mae pobl estron yn gweld yr ardal y maent yn byw ynddo, pob dydd, ac maent yn ei ddeall yn agos.
Rwy’n gweld Naws am Le fel tystiolaeth bellach o ymrwymiad Cymru’n Un i ddatganoli cymryd penderfyniadau – y tro yma gan roi twristiaeth yn nwylo’r bobl sy’n dibynnu arni i fyw.
Mawr mae gennym ni’r pecynnau cymorth hyn, rwy’n credu y gallwn annog pobl i’w defnyddio mewn ffordd a fydd yn newid sut mae pobl estron yn gweld Cymru – er gwell – a datblygu hunaniaethau nodedig ar gyfer y rhannau gwahanol iawn o Gymru.
Oes gwlad arall yn y byd sy’n cynnig cymaint o amrywiaeth mewn ardal mor fach? Mae fy rhanbarth – Gorllewin De Cymru – yn fyd gwahanol i etholaethau fy nghydweithwyr yn y Gogledd, sy’n mor wahanol ar ei gilydd ag y mae fy ardal i o ardaloedd fy nghydweithwyr ar draws De Cymru.
Weithiau gall dau le fod dim ond milltiroedd o’i gilydd – yn y cwm nesaf hyd yn oed – ond mae ganddynt atyniadau gwahanol a diwylliannau gwahanol sy’n eu golygu eu bod yn haeddu ymweld â nhw.
Mae gwahaniaethau amlwg – Gwynedd, â’i mynyddoedd mawreddog; Sir Benfro, â’i thraethau byd enwog; y Canolbarth, â’i thir ffermio tonnog ac unigedd perffaith; Caerdydd, prifddinas ieuengaf Ewrop; a Bae Abertawe, ‘Napoli’r Gogledd’.
Ond mae Naws am Le yn gadael inni fynd cam ymhellach, i ddangos rhesymau gwahanol am ymweld ag ardaloedd llai enwog hyd yn hyn am resymau newydd. Mae fy nhref frodorol, Merthyr Tudful, dim ond 20 milltir o fy swyddfa yng Nghastell Nedd, ond mae’r ddwy wedi datblygu mewn ffyrdd gwahanol fel bod y ddwy dref mor wahanol i’w gilydd ag mae’r ddwy o rywle fel Blackburn.
Trwy adael i’r gweithredwyr twristiaeth ein tywys ni, gallwn ni dynnu ar eu henghreifftiau gorau pryd rydym yn hysbysebu Cymru. Eu dehongliad nhw o’n gwlad a fyddwn yn cynnig i weddill y byd.
Trwy ehangu’r ffordd y mae’r wlad yn cael ei gweld gan y bobl sy’n byw yma, o bosib gallwn ni obeithio ehangu ei hatyniad hefyd.
Dyw ddefnyddio agwedd o’r fath ddim yn wahanol iawn i fodel marchnata twristiaeth Iwerddon, sy’n pwysleisio’r bersonol i dal ein diddordeb. Yn y modd yma, does dim rhaid inni siarad am atyniadau mawr yn unig, ond ansawdd y profiad y gall ymwelwyr ei ddisgwyl.
Fel y dywedais, does dim gwlad arall gyda chymaint o amrywiaeth, felly mae gofyn llawer i ffitio popeth i mewn i hysbyseb 30-eiliad. Rwy’n credu y byddai canolbwyntio ar un dehongliad personol yn helpu gwneud i Gymru fyw yn nychymyg ymwelwyr yn fwy nag erioed o’r blaen.
Dywedais ar y cychwyr roedd arfer bod – neu o bosib mae o hyd – tipyn o ddrwgdybiaeth ynglŷn â’r iaith Gymraeg, cred y defnyddir yn gyfrinachol, i guddio ein bwriadau go iawn. Os yw’r rhagfarnau hyn yn dal i fodoli, o bosib mae’n amser inni eu hanwybyddu ac i ddechrau ceisio atynnu’r bobl sydd â diddordeb penodol yn yr iaith a beth mae’n meddwl.
Rwy’n credu y bydd yr elfen iaith yn Naws am Le yn helpu cyflawni hyn. Rwy’n credu y dylid annog defnydd Cymraeg yn arbennig pryd mae’n cyfeirio at dirwedd a diwylliant Cymru – y rhesymau y mae pobl yn ymweld â’r wlad.
Os gallwn anfon pobl i ffwrdd gyda thipyn o Gymraeg, efallai gallwn ddod â’r iaith i’r goleuni yn lle gadael i’n hymwelwyr dod o hyd iddo yng nghefn siop.



