Symud Cymru ymlaen yn Aberafan, Penybont, Gwyr, Castell Nedd, Port Talbot ac Abertawe
Moving Wales forward in Aberavon, Bridgend, Gower, Neath, Ogmore, Port Talbot and Swansea

Anhwylderau Bwyta

Fe wnes i sefydlu’r grwp trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2007 er mwyn ymgyrchu am fwy o wasanaethau a thriniaeth i bobl sydd yn dioddef o anhwylder bwyta yma yng Nghymru, ac i godi ymwybyddiaeth ar lefel gwleidyddol o’r afiechyd. Rydym wedi cynnal nifer o gyfarfodydd, yn ogystal a lansiad cyhoeddus o’n hamcanion fel grwp yn ystod Wythnos Anhwylderau Bwyta yn mis Chwefror 2008. Rydym hefyd wedi trefnu digwyddiad yn ystod Wythnos Anhwylderau 2009- cystadleuaeth yn gofyn i bobl ebostio i ni luniau o’u syniad hwy o gwir harddwch. Yn 2010 fe wnaethom drefnu digwyddiad yn y Cynulliad i ddathlu lansiad elusen anhwylderau bwyta yn arbenning i Gymru- Beat Cymru. Os hoffech gysylltu gyda’r elusen, ebostiwch y rheolwr ar h.miller@b-eat.co.uk.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn rhan o’r grwp, neu helpu’r ymgyrch mewn unrhyw ffordd plis cysylltwch a mi. Isod mae lincs i dudalen y grŵp ar wefan y Cynulliad, yn ogystal a’r grŵp Facebook newydd. Mae’r Gweinidog Iechyd wedi datgan fframwaith newydd ar anhwylderau bwyta yn ddiweddar, gyda £1m y flwyddyn pob blwyddyn am y 3 mlynedd nesaf tuag at datblygu’r fframwaith. Gallwch gweld y fframwaith yma.

Fi yw Cadeirydd y Grwp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta

Eating Disorders Group Meeting

Eating Disorders Group Meeting

Bethan Jenkins: Ategaf y sylwadau blaenorol, a chroesawaf yr adroddiad gan yr Athro Michael Williams. Mae’n hollbwysig ein bod yn rhoi iechyd meddwl yn ôl ar yr agenda wleidyddol. Derbyniaf yn gyffredinol y cysyniad sy’n sail i’r adroddiad sef, dwyn ynghyd ymagwedd strategol er mwyn rhoi strategaethau iechyd meddwl ar waith yng Nghymru. Mae’r rhain, yn fy marn i, wedi bod yn methu o ran eu mecanweithiau cynllunio, sydd o safon isel, ac o ran cysondeb y gwasanaeth, sy’n rhywbeth y mae angen inni roi sylw difrifol iddo.
Mae’r syniad o gael un corff statudol newydd yn rhywbeth y mae’n rhaid inni i gyd ei drafod, ac yr wyf yn falch y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddadlau ynglyn â hyn bellach. Sut y byddai un corff yn ymdrin â phroblemau diwylliannol yn y gwasanaeth iechyd meddwl, yn enwedig o ran seiciatryddion yn trin oedolion ag anhwylderau bwyta, a’r seiciataryddion hynny’n gwrthod derbyn cleifion newydd yn y maes hwn?

Gan fy mod yn awr wedi crybwyll anhwylderau bwyta, sylwaf nad ydym yn cyrraedd y pwnc hwn tan bwynt 75 dan wasanaethau triniaeth arbenigol. Fy mhryder i?yr wyf wedi ysgrifennu atoch ynglyn â hyn?yw nad oes llwybr gofal cenedlaetholl ar hyn o bryd ar gyfer anhwylderau bwyta sy’n cael ei roi ar waith yn llwyr gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Felly, ni chaiff anhwylderau bwyta yr un ystyriaeth pan fyddwn yn trafod capasiti iechyd meddwl. Felly, pe cyflwynid corff statudol, efallai y byddai angen is-grwp darpariaeth anhwylderau bwyta ar gyfer Cymru er mwyn iddo fod ar yr un telerau â gwasanaethau eraill.

Gan ddal i sôn am anhwylderau bwyta, croesawaf hefyd y cwestiwn yn yr adroddiad sy’n ymwneud â hyfforddi ac addysgu arbenigwyr. Dyma faes arall yr wyf yn gobeithio y rhowch sylw iddo. Ar hyn o bryd, dim ond rhan fach o’r cwricwlwm sydd wedi’i neilltuo i anhwylderau bwyta. Ar hyn o bryd, dim ond un meddyg teulu y gallwn ddod o hyd iddo yng Nghymru sydd â diddordeb arbenigol o unrhyw fath mewn anhwylderau bwyta. Felly, hoffwn ichi roi sylw i hynny.

Y maes arall sydd o ddiddordeb i mi yn yr adroddiad hwn yw gwasanaethau iechyd meddwl i blant ac oedolion. Yr wyf yn gobeithio y rhowch sylw i’r argymhellion yn yr adroddiad ynglyn â’r hyn y mae’r comisiynydd plant wedi’i ddweud. Ar hyn o bryd, yn enwedig yn y cyfnod pontio, mae’r cymorth a roddir i’r rheini sydd rhwng plentyndod ac oedolaeth yn fympwyol.

Gan ategu’r hyn y mae Jonathan Morgan wedi’i ddweud ynglyn â chomisiynu gwasanaethau, os ydym yn bwriadu newid rôl comisiwn Iechyd Cymru, mae angen inni sefydlu mecanweithiau cryf er mwyn sicrhau mai byrddau partneriaeth yw’r corff effeithiol y mae’n rhaid iddo ateb iddynt. Efallai, yr wythnos nesaf, pan gawn yr adroddiad ar Gomisiwn Iechyd Cymru, y gallai’r Athro Aylward gynorthwyo gydag unrhyw drefniadau yn y maes hwn.

Tynnaf i ben drwy sôn am awtistiaeth. A wnewch ystyried, fel rhan o unrhyw syniadau newydd ynglyn â chorff statudol, y ffaith bod rhai pobl yn dod y tu allan i gylch gorchwyl iechyd meddwl, a’u bod efallai’n dod o fewn cylch gorchwyl anawsterau dysgu, yn enwedig yng nghyswllt syndrom Asperger? Felly, a fyddech yn ystyried rhoi protocol gofal ar waith rhwng y gwasanaethau anableddau dysgu a’r gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn cytuno ar lwybr gofal strwythuredig i oedolion sydd â syndrom Asperger?

Yr wyf yn croesawu’r adroddiad, ond hoffwn ofyn hefyd beth fydd yr amserlen ar gyfer ymgynghori. Os byddwch yn derbyn rhai o’r argymhellion, a fyddech gystal â sôn am atebolrwydd y bwrdd cenedlaethol a gynigir?

Edwina Hart: Diolchaf i Bethan Jenkins am ei chyfraniad ynglyn â hyn, oherwydd cododd nifer o bynciau allweddol y byddaf yn treulio llawer o amser yn eu hystyried, megis anhwylderau bwyta a hunan-niweidio. Maent yn faterion sydd wedi’u hesgeuluso. Gwelwyd enghreifftiau o arferion da ac mae nifer o feddygon teulu ardderchog a phobl ardderchog wedi bod ar gael inni gyfeirio atynt, ond, ar y cyfan, maent bob tro wedi bod ar gyrion y trafodaethau. Mae’n bwysig eu bod ym mhrif ffrwd y trafodaethau os ydym am ddatblygu strategaeth briodol ar gyfer iechyd meddwl.

Soniodd Bethan yn fanwl iawn am y meysydd y mae am edrych arnynt. Dyma’r manylion a fydd yn deillio, yr wyf yn gobeithio, o unrhyw drafodaeth a gawn. Gynnau, wrth ymateb i Jonathan Morgan, gelwais y ddogfen hon yn ddogfen drafod, a dyna ydyw?yr wyf am ei thrafod. Nid wyf wedi pennu amserlen, oheerwydd bod y math hwn o ddogfen hon yn ddogfen yr ydych am ei thrafod ymhell i’r hydref. Nid ymgynghoriad tri mis sy’n ofynnol, ond trafodaeth dros gyfnod o chwe mis. Bwriadaf drafod gyda’r Athro Williams, sut yr ydym am fwrw ymlaen â rhai o’r mathau o drafodaethau, y math o grwpiau yr ydym am ofyn i’r sector gwirfoddol eu trefnu i’w thrafod, sut y caiff ei thrafod yn yr ymddiriedolaethau, y BILlau, ac amrywiol sefydliadau. Dyna sut yr wyf am fwrw ymlaen â hi.

Mae rhai o’r meysydd allweddol yn ymwneud â chynllunio gwasanaethau. Dyma’r prif faterion. Sut mae cynllunio gwasanaethau o gwmpas yr unigolyn a sut mae cael gwasanaethau di-dor i unigolion? Dyma’r pethau a fydd yn deillio, yr wyf yn gobeithio, o’r gwahanol drafodaethau. O ran CAMHS, mae nifer o heriau yn y fan honno hefyd. Nid yw rhai BILlau yn gwneud cystal ag eraill yn y cyswllt hwn. Mae rhai’n gwneud hyn yn dda iawn, a rhaid inni sicrhau’r cysondeb hwnnw o ran ymagwedd ac o ran mynediad cyfartal at driniaeth ledled Cymru, cysondeb nad yw ar gael yn CAMHS nac mewn unrhyw wasanaethau iechyd meddwl eraill. Lwc fwy neu lai sy’n penderfynu a yw’r clinigwyr priodol ar gael ichi yn eich ardal, ac nid felly y dylai fod.

Felly, rhoddaf sylw i’ch pwyntiau; fe’u teflir i’r pair, fel petai, o ran ar yr hyn y mae angen inni ei wneud mewn maes eithriadol o gymhleth wrth inni ymdrin â’r gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru.



Bethan Jenkins
: Er bod y Cynulliad i bob golwg yn annog pobl ifanc i gael llais yn y broses wleidyddol yng Nghymru, ni ellir cyfiawnhau’r ffaith bod Tywysog Cymru’n dod i agor y siambr pobl ifanc heb hyd yn oed ymgynghori â phobl ifanc yng Nghymru am y penderfyniad hwnnw. Felly, hoffwn gael trafodaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol am ddyfodol y frenhiniaeth yng Nghymru, ond gan gynnwys pobl ifanc, fel y gallwn drafod y safbwynt hwnnw’n agored.

Hoffwn hefyd ofyn am drafodaeth am anhwylderau bwyta. Cynhelir cyfarfod y grwp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta yr wythnos nesaf, ond cyflwynaf fy nghais oherwydd bod patshys deiet newydd ar y farchnad ar gyfer pobl ifanc, sy’n cael eu hysbysebu ar wefannau megis Facebook a Hotmail. Maent wedi eu targedu at bobl ifanc ond gallai arwain at fwy o broblemau gydag anhwylderau bwyta yn y dyfodol. 

Carwyn Jones: Mae anhwylderau bwyta yn broblem gynyddol. Cânt eu hysgogi, o leiaf yn rhannol, gan yr hyn y mae merched ifanc yn arbennig, er ni chyfyngir hyn yn llwyr i ferched ifanc, yn ei ddarllen ac yn ei weld fel siâp corff delfrydol. Darllenais yn ddiweddar fod hwn yn fater sy’n peri pryder cynyddol unwaith eto, gyda’r ddelwedd o gorff tenau fel y siâp i anelu ato. Yr wyf yn ofni fy mod wedi methu yn hynny o beth dros amser. Fodd bynnag, mae’n fater difrifol, a bydd nifer o Aelodau wedi cael profiad o ddelio gyda llawer o ferched ifanc ac eraill sy’n dioddef o anhwylderau bwyta. Mae’n bwysig bod y grwp trawsbleidiol yn adrodd yn ôl i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch beth y gellid ei wneud i helpu i liniaru’r sefyllfa. Yr ydych yn llygad eich lle wrth ddweud nad yw hon yn broblem a wnaiff diflannu, ac mae’n ddigon i’m dychryn bod techneg ar gyfer colli pwysau sydd heb ei brofi, yn ôl pob golwg, yn cael ei farchnata’n galed i bobl ifanc, ac mae hynny’n peri pryder.