Gallai cosbi siaradwyr Cymraeg gan BT fod yn torri hawliau dynol – Prif Weinidog
1 Ebrill 2009
Gallai cosbi siaradwyr Cymraeg gan BT fod yn torri hawliau dynol – Prif Weinidog
AC yn gofyn i’r Comisiwn Hawliau Dynol ymchwilio ym mhellach
Mewn ymateb i gwestiwn heddiw gan lefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant Bethan Jenkins AC, dywedodd y Prif Weinidog fod sail i ymchwilio pellach i bolisi BT o godi tâl o hyd at £32 ychwanegol y flwyddyn am dderbyn rhai gwasanaethau Cymraeg eu hiaith, ac awgrymodd hefyd y gallai BT fod yn torri deddfwriaeth hawliau dynol.
Yn y Western Mail heddiw, datgelwyd bod cwsmeriaid sy’n talu eu biliau ar-lein yn talu £1.23 y mis yn llai, ond er bod biliau papur ar gael yn Saesneg a’r Gymraeg, y mae’r gwasanaeth biliau ar-lein ar gael yn Saesneg yn unig. Mae gwasanaeth ateb 1571 ar gael am ddim yn Saesneg ond mae rhaid i gwsmeriaid sydd am dderbyn y gwasanaeth Cymraeg dalu £1.47 y mis yn ychwanegol gan fod derbyn y gwasanaeth yn Gymraeg yn cyfrif fel “pecyn gwell.”
Yn siarad o’r Senedd heddiw, dywedodd Bethan Jenkins AC:
“Roeddwn yn synnu wrth weld y datgeliad yn y wasg heddiw bod cwsmeriaid sydd am dderbyn y gwasanaethau yma yn y Gymraeg yn cael eu cosbi’n ariannol. Mae’r gwasanaethau yma mor sylfaenol fel ei bod yn amhosib ei choelio ac rwy’n falch bod y Prif Weinidog wedi cydnabod difrifoldeb y sefyllfa ac roedd yn ddiddorol clywed ei fod yn credu bod sail i ymchwilio pellach gan ei bod yn bosibl bod BT yn torri deddfwriaeth hawliau dynol.
“Rwyf wedi gofyn i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ymchwilio ym mhellach yn y mater ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed eu barn. Mae’n annerbyniol bod Cymry Cymraeg yn dal i gael eu trin fel dinasyddion eilradd yn yr 21ain ganrif. Mae ymddygiad BT yn anheg ofnadwy.”
Hefyd, ailddatganodd Ms Jenkins ei chred y dylai deddfwriaeth ar yr iaith Gymraeg fod yn fater i’r Cynulliad Cenedlaethol. Ychwanegodd Ms Jenkins:
“Mae’r digwyddiad diweddar yma yn enghraifft arall eto o’r angen i’r Cynulliad Cenedlaethol gael cymhwysedd deddfwriaethol dros yr Iaith Gymraeg. Dim ond gyda phwerau o’r fath y gall Llywodraeth y Cynulliad weithredu deddfwriaeth a fydd yn rhoi cydraddoldeb i gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith a chorffori’u disgwyliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau’r Iaith Gymraeg.”



