Tai
Rwyf yn gweithio’n agos gydag elusennau megis Shelter Cymru mewn codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl digatref yng Ngorllewin De Cymru. Rwyf wedi ymweld a nifer o gynlluniau gwych yn yr ardal, megis y Foyer yn Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot, y Cyrenians, ac wedi ymweld a chynlluniau sydd yn cael ei weithredu gan Trothwy sydd yn rhoi lloches i bobl digatref. Rwyf hefyd wedi ymweld a’r cynllun Llamau ym Mhenybont sydd yn rhoi cefnogaeth i bobl ifanc digatref yr ardal. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn datblygu polisiau i gefnogi prynnwyr tro cyntaf, ac o rhan rhoi cefnogaeth i awdurdodau lleol sydd yn penderfynnu peidio a thrawsnewid eu stoc tai.

Picture with me, local constituents, and Jocelyn Davies the Deputy Housing Minister. Llun o fi gyda etholwyr lleol, a Jocelyn Davies y Dirprwy Gweinidog dros Tai.



