Diwydiant a busnes
Gweledigaeth Plaid Cymru yn rhan o llywodraeth Cymru’n Un yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yw i greeu Cymru sydd ag economi gref a mentrus a chyflogaeth sy’n seiliedig ar swyddi o ansawdd. Rydym yn annog ac yn ysgogi mentergarwch ac yn cynorthwyro cwmniau i dyfu a buddsoddi. Rydym yn awyddus i datgelu potensial pobl Cymru, ac yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ar bob lefel, iw galluogi i wneud y cyfraniad gorau posibl i’r economi a’u cymunedau.
Mae llywodraeth Cymru’n UN yn paratoi’r ffordd ar gyfer pedwar cam gweithredu- creu swyddi ledled Cymru, ysgogi mentergarwch a thwf busnes, hybu twrisitiaeth, a gwellau sgiliau ar gyfer swyddi. Rydym wedi addo cyflwyno strategaeth marcnad lafus gyda nod hirdymor o gylfogaeth lawn ar raddfa 80%. Rydym yn datblygu strategaeth swyddi gwyrdd ar gyfer Cymru gyfan, cefnogi datblygiad Fforwm gweithgynhyrchu ac Academiau Sgiliau mewn sectorau gweithgynhyrchu allweddol, ac yn archwilio’r opsiynau ar gyfer cytundeb buddsoddi sector cyhoeddus gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Yn ddiweddar, mae Ieuan Wyn Jones AC wedi creu un gronfa fuddsoddi ar gyfer cymorth i fusnesau, a fydd yn cynnwys darparu mentergarwch cymdeithasol a mentrau amgylcheddol, a gwellau’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes, o fewn cyd-destun cymorth mwy effeithiol i fusnesau.
Yn sgil y creisis economaidd diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu nifer o Uwch Gynhadleddau economaidd er mwyn cyfathrebu gyda busnesau ac undebau llafur, i enwi ond rhai mudiadau, er mwyn gallu cyflwyno polisiau i helpu Cymru allan o’r sefyllfa economaidd dwys. Mae manylion ar gael yma ar y cynllun ProAct sydd yn rhoi help i bobl yn y gweithle, ac mae manylion ReAct yma- cynllun sydd yn helpu pobl sydd yn cael eu gwneud yn ddiwaith.
mycontribution_debate_economy1



