Llywodraeth Leol
O ystyried bod gan Awdurdodau lleol pwerau yn ymweud a materion pwysig megis treth cyngor, trafnidaeth lleol, ysgolion ac yn y blaen, yna mae’n elfennol fy mod i’n datblygu cysylltiadau gyda’r rheiny sy’n gweithio yn rhan o’r Awdurdodau Lleol yn y rhanbarth, a’n Cynghorwyr. Rwyf hefyd yn cael cyfarfodydd aml gyda arweinwyr a Phrif Weithredwyr Cyngor Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Phen y Bont ar Ogwr, yn bennaf er mwyn i mi allu codi materion gan bobl yn fy etholaeth neu grwpiau cymunedol. Os oes gennych waith achos sy’n gysylltiedig ag Awdurdodau Lleol megis cynllunio, neu trafnidaeth yna cysylltwch a mi.



