Pensiynau ac Iawndal i Lowyr
Rwyf wedi cymryd yr ymgyrch hwn i Swyddfa Cymru gyda fy nghyd-weithiwr Adam Price AS er mwyn ceisio ennill ad-daliadau i lowyr a oedd yn gweithio o fewn y diwydiant glo cyn 1954. Yn bresenol, nid yw glowyr a oedd yn sal yn sgil gweithio yn y pyllau cyn Mehefin 1954 yn medru ceisio am ad-daliadau o gwbl, er bod glowyr yn yr Alban yn derbyn cefnogaeth. Rwyf yn awyddus i drafod y mater gyda Swyddfa Cymru i sicrhau bod pobl yn fy rhanbarth i yn derbyn y cefnogaeth maent yn haeddu. Mae’r sefyllfa fel mae’n sefyll yn annerbynniol.
Mae gwrthod rhoi cefnogaeth i lowyr wedi ei selio ar ddyddiadau, neu’r ffaith eu bont yn byw yng Nghymru yn annheg. Rwyf wedi gofyn i Swyddfa Cymru edrych ar y mater, ac i ehangu’r cynllun ad-daliadau fel nad yw’r anghyfiawnder yma yn parhau.
Os ydych chi yn cael eich effeithio gan yr ymgyrch yma ac am bod yn rhan ohono, yna cysylltwch a’r swyddfa.



