Cymru’n Un
You can download the One Wales Agreement in PDF format here
1. Rhaglen Flaengar ar gyfer Cymru
Amcanion cyffredin, gwerthoedd a gobeithion ar y cyd ar gyfer pobl Cymru – dyma a fydd yn symbylu’r rhaglen lywodraethu bedair blynedd hon. Mae’n cynnig rhaglen flaengar i wella ansawdd bywyd pobl holl gymunedau Cymru, pobl o bob rhan o’r gymdeithas, ac yn enwedig y bobl sydd fwyaf agored i niwed a difreintiedig.
Mae pobl Cymru a’u llywodraeth yn wynebu heriau cwbl newydd. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi llunio rhaglen ar gyfer llywodraethu sy’n mynd i’r afael â’r heriau hynny. Ein huchelgais fawr yw gweddnewid Cymru a’i throi’n genedl a chymdeithas hyderus, ffyniannus, iach sy’n deg â phawb.
Rydym yn gwbl gytûn o ran ein hymrwymiad i egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, cynaliadwyedd a chynhwysiant – a hynny ar gyfer Cymru gyfan a’i holl bobl. Mae hon yn thema gyson drwy’r rhaglen hon. Dyma’r egwyddorion sy’n sylfaen i’r rhaglen ac sy’n hanfodol i’w llwyddiant.
Wrth ddyfeisio’r rhaglen hon, rydym wedi cydnabod yn benodol amrywiaeth Cymru – yn ddaearyddol, yn gymdeithasol, yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol. Rydym yn cynnig rhaglen lywodraethu gynhwysfawr, ar gyfer y tymor llawn o bedair blynedd, a’r rhaglen honno’n ymdrin â’r ystod lawn o feysydd polisi a gweithredu.
Rydym yn cynnig rhaglen sy’n adeiladu cenedl gref a hyderus ac a fydd yn creu dyfodol iach, ffyniant a swyddi mewn cymunedau byw, gan gynnwys mesurau i gefnogi’r Gymraeg.
Rydym yn amlinellu cynlluniau i sicrhau dysgu i fyw, creu cymdeithas deg a chyfiawn a sicrhau amgylchedd cynaliadwy. Yn olaf, ein nod yw cael diwylliant cyfoethog ac amrywiol, sy’n hyrwyddo Cymru fel cenedl ddwyieithog ac amlddiwylliannol.
Mae’r rhaglen hon ar gyfer llywodraethu yn un uchelgeisiol, ond yn un realistig. Mae’n rhaglen radical, ond yn un y gellir ei gwireddu.
Mae’n gwneud y defnydd gorau o’r pwerau a’r adnoddau sydd gan y llywodraeth ar hyn o bryd ac yn nodi a oes angen newidiadau pellach.



