Trafnidiaeth

Ieuan Wyn Jones AC, y Dirprwy Prif Weinidog yw’r Gweinidog sydd a chyfrifoldeb dros trafnidiaeth. Mae e’n frwd i weithredu amcanion y ddogfen Cymru’n Un yn y maes hwn o wella’r cysylltiadau rhwng y De a’r Gogledd, gan gynnwys teithio ar ffyrdd ac ar rheilffyrdd, creu rhwydwaith trafnidiaeth Traws Cambria newydd ar gyfer Cymru gyfan a fydd yn integreiddio siwrneiau hir ar y tren a’r bws gyda thraws-docynnau electronig erbyn 2011.
Rydym hefyd yn bwriadu sefydlu pwyllgor teiwthwyr trafnidiaeth Cendlaethol ar gyfer Cymru ynghyd a gwella llwybrau seiclo yng Nghymru. Mae’r gwaith yma yn cael ei wneud ar y funud. Yn fy rhanbarth i, rwyf yn ymateb i unrhyw ymholiadau am drafnidaeth gan etholwyr, neu unrhyw cwynion ynghylch trafnidiaeth cyhoeddus. Rwyf yn awyddus i glywed ganddoch chi hefyd.
Ar y 15 o Orffennaf 2009, gwnaeth Ieuan Wyn Jones AC, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, gyhoeddu cynllun trafnidiaeth newydd i Gymru sydd flaengar yn ac gynnaladwy. Gallwch gweld y manylion gan y Llywodraeth ar y wefan yma.



