Welfare and Employment
Fel Aelod Cynulliad, rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o ymgyrchoedd ynghlwm a strwythurau benthyciadau a diwygiadau lles. Fel aelod o grwp trawsbleidiol PCS y Cynulliad, rwyf wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd yn erbyn cau swyddfeydd treth yng Nghymru, yn erbyn cyflogau rhanbarthol yn y wasanaeth sifil, ac o blaid cadw Swyddfeydd Canolfannau Gwaith ar agor trwy Gymru. Mae cefnogi y fath ymgyrchoedd yn bwysig, oherwydd mae’n rhaid i ni sicrhau bod swyddi yn aros yng Nghymru ar gyfer pobl sydd yn byw yng Nghymru, ac ein bod yn cefnogi y rheiny sydd yn gweithio yn y sector gyhoeddus. Fe wnes i gwrdd a Ieuan Wyn Jones y Dirprwy Prif Weinidog i drafod y materion uchod, ac fe gallwch gweld cynnwys y cyfarfod yma ym mwletin y PCS yma.
Rwyf hefyd wedi dilyn swyddog lles Castell Nedd Port Talbot wrth ei gwaith mewn hybu pobl yn yr ardal i gael eu benthyciadau anabledd, ac rwyf hefyd yn rhan o ymgyrch RNIB Cymru er hybu Cynghorau lleol i gymryd rhan yn ei cynllun lles sydd yn sicrhau bod pobl dall neu sydd a phroblemau gyda’i llygaid yn medru cael gafael ar y benthyciadau y dylent cael fel hawl.
Rwyf hefyd wedi cefnogi undebau eraill megis Unsain a Unite pan maent hwy wedi streicio yn erbyn cyflogau rhanbarthol a phan maent yn lobio am fwy o gyflog i’r rheiny yn y sector cyhoeddus.
Rwyf hefyd yn eistedd ar bwyllgor Cyfleoedd Cyfartal y Cynulliad lle rydym wedi gwneud gwaith ymchwil ar cyflog cyfartal, a hawliau gweithwyr mudol.
hmrc-closures_question-to-carwyn-jones-am





