Symud Cymru ymlaen yn Aberafan, Penybont, Gwyr, Castell Nedd, Port Talbot ac Abertawe
Moving Wales forward in Aberavon, Bridgend, Gower, Neath, Ogmore, Port Talbot and Swansea

Cosbi dilynwyr pêl-droed Cymraeg eu hiaith gan deledu lloeren

Mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru Bethan Jenkins heddiw wedi condemnio’r diffyg ymdriniaeth ar y teledu yn Gymraeg i gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru a ddangosir ar y sianel lloeren, Setanta. Daw ei galwad cyn i dîm John Toshack chwarae yn erbyn Rwsia ym Moscow.

Dangosir tair o gemau oddi cartref Cymru am le yng Nghwpan y Byd ar y sianel. Cyn hyn, mae dilynwyr Cymraeg eu hiaith wedi medru gwylio gemau Cymru ar Sky Sports a dewis iaith y sylwebaeth trwy wasgu’r botwm coch ar y teclyn rheoli.

Meddai Ms Jenkins heddiw:

“I ddechrau, rwy’n meddwl ei bod yn annheg iawn fod dilynwyr pêl-droed Cymru yn gorfod talu £10 ychwanegol y mis i wylio eu gwlad yn chwarae yn y gemau pwysig hyn. Ond mae’n fwy annheg fyth i ddilynwyr Cymraeg eu hiaith na fydd yn medru gwrando ar sylwebaeth yn eu hiaith eu hunain a hwythau yn eu gwlad eu hunain.”

Addawodd Ms Jenkins godi’r mater gyda Gweinidog Treftadaeth Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, ac y mae hefyd wedi ysgrifennu at Gymdeithas Pêl-droed Cymru a Setanta Sports.

Ychwanegodd Miss Jenkins:

“Pêl-droed yw un o’n campau cenedlaethol ac y mae’n bwysig dros ben i’n cenedl sydd mor hoff o chwaraeon. Dylai’r FAW a darlledwyr roi pwyslais mawr ar agweddau ieithyddol a diwylliannol bywyd Cymru, a dylent adlewyrchu hyn yn eu gweithgareddau.”

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Steffan Lewis ar 02920 898 713 / 07961 732405